Cofnodion

 

1.         Cyflwyniad gan y Cadeirydd, Keith Davies AC

2.         Ymddiheuriadau

3.         Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol

4.         Trafodaeth gyda’r Parchedig Aled Edwards OBE

5.         Cwestiynnau o’r llawr

6.         Cofnodion y cyfarfod diwethaf (Mai & Awst 2014)

7.         Cadarnhau pynciau trafod y dyfodol

8.         Unrhyw fusnes arall

 

Cyflwyniad

Croesawyd pawb gan y Cadeirydd, Keith Davies AC.  Amlinellwyd y rhanwyd y cyfarfod hon yn ddau -  Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol a trafodaeth a’r ‘lleiafrifoedd ethnig a’r iaith.’

 

Yn bresennol

Keith Davies AC, Rhun ap Iorwerth AC, Simon Thomas AC, Aled Edwards OBE, Ceri Owen (RhAG), Colin Nosworthy (Cymdeithas), Lowri Hughes (AMSS), Penri Williams (Dathlu’r Gymraeg), Meinir Jones (swyddfa Comisiynydd yr Iaith), Dr Dylan Foster Evans (Prifysgol Caerdydd), Carl Morris (NativeHQ), Jamie Bevan (Cymdeithas), Osian (Cymdeithas)

 

Ymddiheuriadau

Ymddiheuriadau: Alun Ffred AC, Janet Finch Saunders AC, David Melding AC, Dr Huw Thomas, Hywel Glyn Lewis, Tegwen Morris (Merched y Wawr), Bethan Whittall (CYDAG), Dr Gwenllian Lansdown Davies (Mudiad Meithrin), Jill Stephens (Menter Iaith Sir y Fflint), Catrin Dafydd, Emily Cole (Mentrau Iaith)

 

 

 

 

 

 

Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol (AGM)

Eglurwyd bod rheolau’r Swyddfa Gyflwyno yn ei gwneud yn ofynnol inni gynnal Cyfarfod Blynyddol o fewn deuddeg mis. Dosbarthwyd copi o’r Adroddiad Blynyddol.

Wedi proses nomineiddio, etholwyd Keith Davies AC yn Gadeirydd unwaith eto.  Penderfynwyd parhau hefyd â’r trefniadau ysgrifenyddiaeth, ar-y-cyd rhwng swyddfa Keith Davies a Dathlu’r Gymraeg.

 

Trafodwyd yr Adroddiad Blynyddol a’r Datganiad Cyllid, gan amlinellu’r pedair adran sylfaenol sef aelodaeth, cyfarfodydd, unrhyw lobiwyr profesiynol a datganiad ariannol.

 

Cyflwyniad gan y Parchedig Aled Edwards OBE

Mynegodd Aled Edwards air o ddiolch am y gwahoddiad i annerch y grŵp. Eglurodd ei fod yn mynychu tra’n gwisgo sawl het.

Cyflwynodd Aled Edwards (AE) ei hunain a’r sefydliadau y mae’n gweithio gyda – Pwyllgor Cymru o Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, Cadeirydd Parteriaeth Mewnfudo, ‘Displaced People in Action’, Ysgrifenydd Cyngor Rhwng Ffydd Cymru.

Yr effaith ieithyddol o mewnfudo: mewnfudo’n digwydd am ambell reswm gan gynnwys o dramor neu am resymau economaidd/diwydiannol.  Y reality ydi fod dysgu Saesneg yn gamp sylweddol yn ei hunain. 

Cyfeiriodd at effaith ieithyddol mewnfudo rhyngwladol: mae 1 o bob 33 ohonom yn byw mewn gwlad na chawsom ein geni neu’n magu ynddo, sy’n ystadegyn syfrdanol.

Gwelwyd chwydd ym mhoblogaeth Caerdydd, Casnewydd, Abertawe, Wrecsam dros y blynyddoedd diwethaf ac mae’n debyg bod hynny i ddod yn hanes Ynys Môn gyda dyfodiad Wylfa B. Mae peryglon ieithyddol enfawr yn bosib yno, rhaid bod ymwybodol o hynny a chanfod ffyrdd i wrthsefyll y mewnlifiad; o bosib gwersi bydd i’w dysgu maes o law.

Dyfodiad y carchar newydd i Wrecsam yn enghraifft arall.

Tebygrwydd y byddant yn dosbarthu mewnfudwyr/ceiswyr lloches mewn ardaloedd tu allan i’r ‘ardaloedd clwstwr’ traddodiadol. Bydd hyn yn gosod her sylweddol.

Dywedodd ei fod hefyd yn ymwneud â’r Rhaglen Alltudiaeth ar Waith, sef rhaglen sy’n hyfforddi ffoaduriaid a cheiswyr lloches. Un enghraifft nodedig yw’r Cynllun Dysgu Meddygon sy’n Ffoaduriaid. Hyd yma, mae’r cynllun hwnnw wedi cyflogi 150+ o unigolion gyda 73 ohonynt bellach yn gweithio yn y Gwasanaeth Iechyd yma yng Nghymru.

Yn amlach na pheidio, y plant yw’r cyfrwng neu’r cerbyd ieithyddol rhwng y teulu a’r gymuned yn ehangach. Nhw sy’n mynychu’r ysgol ac yn caffael iaith y wlad newydd ac yn trosglwyddo hwnnw wedyn i’r cartref.  Nhw sy’n codi’r Saesneg gyntaf, sydd hefyd yn gyfle iddyn nhw godi’r Gymraeg.

Mae’r gallu a’r empathi gan y bobl hyn i ddeall anghyfiawnder a lleiafrifedd. Yn aml iawn mae meddylfryd mewnfudwyr yn gydnaws â ffordd o fyw pobl yr ardaloedd hynny lle byddant yn ymgartrefu; o ran gallu, sgiliau a gwerthoedd. Mae’n bwysig cofio bod gan fewnfudwyr gyfraniad i’w wneud.

 

Cyfeirioedd ei fod hefyd yn Ysgrifennydd Cyngor Rhyng Ffydd Cymru a’u cylch gorchwyl yw hyrwyddo’r Gymraeg ymysg pobl o amrywiol gredoau.

Mae’r arwyddion yng nghanolfannau’r gymuned Mwslemaidd yn ddwyieithog.  Yn ystod yr agoriad bu’r plant bach yn croesawu a chanu yn y Gymraeg.  Bu’r gymuned yn arwyddocaol yn referendwm Cymru 2011, yn dosbarthu taflenni dros pleidleisio ‘ie’ am ragor o bwerau deddfwriaethu. 

Yn y Gymru ôl ddatganoledig, rhaid dathlu’r nodweddion hynny sy’n ein diffinio, sef: yr hawl i fod yn unigryw, i berthyn, i alw’ch hun yn Gymry os yn dymuno hynny. Y gwerthoedd gwaelodol hynny sy’n gwneud ein gwleidyddiaeth ni’n wahanol. Rydym yn gweld ein cymunedau amlethnig yn prynu mewn i’r gwerthoedd o gydraddoldeb, hawliau dynol ac ymrwymiad i gynaliadwyaeth.

Cyfeiriwyd at bwysigrwydd Addysg Gymraeg yn yr ymdrechion hyn. Rhaid gwerthu’r egwyddorion hyn i’r cymunedau hyn mewn awyrgylch sy’n wrthbwynt i’r agweddau negyddol ac ymfflamychol sy’n cael ei amlygu gan bleidiau fel UKIP.

Nodwyd bod troseddau atgasedd ar gynnydd ledled y DU, sy’n arwydd bod diffyg goddefgarwch sylfaenol ar gynnydd.

 

Cwestiynnau o’r llawr / drafodaeth ehangach

Colin Nosworthy: Cwestiwn sylfaenol ynglyn â phwy sy’n gyfrifol am hyrwyddo’r Gymraeg ymysg ein cymunedau amlethnig? Does neb i’w weld yn cymryd cyfrifoldeb ar hyn o bryd. Mae’n gwestiwn pwysig i’w ofyn i’r Llywodraeth; faint o waith sy’n digwydd ar hyn o bryd gyda’r grŵpiau hyn?

Aled Edwards: Comisiynydd y Gymraeg wedi cynnal trafodaethau cychwynol llwyddiannus gyda arweinyddion lleiafrifoedd ethnig.  Y Comisiynydd wedi amlinellu manteision addysg cyfrwng Cymraeg.  Falle’n faes i adeiladu arno yn Strategaeth Iaith y Llywodraeth.

 

Dylan Foster Evans: Gwelwn fod gan Ysgol Pwll Coch, Caerdydd tua 15% o blant o gefndir lleiafrifoedd ethnig, sy’n ffigwr calonogol ond yn lot llai o lawer na’r ysgolion cyfrwng Saesneg cyfagos, lle mae rhai ohonynt gyda 90% neu fwy.

Yn amlach na pheidio, rhwystrau syml, amlwg ac ymarferol sydd wrth wraidd hynny e.e. ffactorau daearyddol, lleoliad, diffyg darpariaeth lleol, diffyg trafnidiaeth. O ystyried hynny, mae’r 15% yn ganran rhyfeddol wedyn. Mae angen ystyried polisi.

Comisiynwyd adroddiad yn ddiweddar gan y Llywodraeth ar y Gymraeg fel Iaith Ychwanegol (yn yr un modd ag y dysgir y Saesneg fel Iaith Ychwanegol). Mae ymwybyddiaeth am gefnogaeth o’r fath yn isel iawn.

Nodwyd bod Llyfrynnau Gwybodaeth am Ysgolion i Rieni yn trafod addysg Gymraeg ond ddim yn sôn bod addysg Gymraeg yn addas i bawb beth bynnag fo’i cefndir ieithyddol a bod cymorth ar gael os yw pobl yn dymuno hynny. Ceir cyfeiriad at ysgolion Saesneg fel rhai ‘cymunedol’ ond ddim yr ysgolion Cymraeg. Mae’r negeseuon a roddir yn hanfodol bwysig.

Aled Edwards: ceir trafodaethau cynnar iawn ynghlych y syniad o ysgolion aml-ffydd (dadleuol).  Mae angen cael strategaethau sydd yn wirioneddol mynd heibio’r rhwystrau ac yn darparu adnoddau.

 

 

Keith Davies AC: codir ysgolion Saesneg Llanelli â chyfrad uchel o leiafrifoedd ethnig. 

Aled Edwards: rhaid newid yr hinsawdd diwylliannol o ran hysbysebu mainteision ysgolion cyfrwng Cymraeg.  Bydd rhaid wir meddwl am yr heriau a’r ysgogiadau i mewnfudwyr ddysgu’r Gymraeg.

 

Simon Thomas: Yr un yw ymdriniaeth plant gyda ADY â’r feddylfryd yn y cyd-destun hwn, h.y. na fydd y plant hyn yn ‘medru ymdopi’ neu ‘tydi’r Gymraeg ddim yn berthnasol iddynt hwy’. Mae angen cydnabod bod potensial arthrol yma, a bod gan unigolion o’r cymunedau hyn gyfoeth o dalent a’r gallu i ddisgleirio yn y Gymraeg.

Mewn gwirionedd, yr un neges sy’n cael ei amlygu wrth ystyried rhaglen Dechrau’n Deg, ond mai tlodi sy’n rhwystr yn y cyd-destun hwnnw.

Ydy’r sector cyfrwng Cymraeg yn barod i ymdopi â’r heriau ddaw yn sgil estyn allan at y cymunedau hynny??

Aled Edwards: mae tendr allan gan Lywodraeth Cymru i rywyn fod yn gyfrifol am eu polisi mewnfudo, cyfle i gryfhau’r elfen Iaith Gymraeg.

 

Rhun ap Iorwerth: diffyg cyswllt rhwng y bobl sy’n symud i Gymru a fframwaith y gymdeithas y maent yn symud i mewn iddi.  Rhaid cymell pobl i gymhathu, a gweld buddiannau dros wneud hynny.

e.e pecynnau gwerthwyr tai fu’n aflwyddiannus ar y cyfan

pecyn llyfrau i rieni newydd yn fwy llwyddiannus – ond oherwydd fod bachyn effeithiol

Yn y bôn mae yna ddiffyg sylfaenol o safbwynt mentora. Rhaid inni fod yn fwy creadigol a mentrus o ran creu systemau mentora llwyddiannus.

Soniwyd am becynnau gwybodaeth Llywodraeth Cymru sy’n cynnig cyflwyniad i Gymru. Ceir cyfeiriad at y Gymraeg ynddo ond dim mwy na hynny. Mae sefyllfa o’r fath yn gwbl annigonol. Mae cyfle yma i gael rhywbeth mwy sylweddol, e.e cynnwys gwybodaeth am Addysg Gymraeg, cyfleoedd i ddysgu’r iaith ayb.

Mae hyrwyddo’r iaith yn rhan o gydlyniad cymdeithasol a’r cysyniad o hunaniaeth genedlaethol, a’r iaith yn rhan bwysig o gyflawni hynny.

Nodwyd bod diffyg amlwg wedi bod o safbwynt buddsoddi i bontio gyda’r cymunedau hyn.

Mae’r diffygion a’r bwlch yn amlwg: mae angen strategaethau cenedlaethol i hyrwyddo, hybu ac estyn allan atynt.

Mae angen cynllunio gofalus a newid hinsawdd er mwyn cyflawni hynny.

Rhaid cynhyrchu egni dinesig sy’n cynnig gwrthbwynt i’r naratif gwrth-Gymreig ac yn erbyn croesawu mewnfudwyr i’n gwlad.

Mae angen cydlynu elfennau o ran y Gymraeg o fewn strategaethau /deddfwriaeth a gosod targedau ieithyddol yr ydym am eu gweld dros yr 20 mlynedd nesaf.

e.e. Ymgyrch Pethau Bychain: faint o ymdrech a wnaethpwyd hyd yma i estyn allan at y cymunedau hyn?

 

 

 

 

Gweithred:

Trafodwyd y potensial o ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn y cwestiynnau a godir. 

Trafodwyd hefyd ysgrifennu at Gomisiynydd y Gymraeg am ragor o wybodaeth am ei waith yn y maes hyd yn hyn. 

Gellid ei roi ar agenda Partneriaeth y Comisiynwyr Cydraddoldeb.

Mae angen rhoi gwedd Gymreig i’r Comisiwn Cydraddoldeb ac i’r rheoleiddio ddigwydd yma yng Nghymru.

 

Cofnodion y cyfarfod diwethaf

Dosbarthwyd y cofnodion a gwahoddwyd unrhyw welliannau neu newidiadau drwy ebost.

 

Pynciau trafod y dyfodol:

Penderfynwyd ar Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn addysg ag agweddau’r siroedd at addysg cyfrwng Cymraeg ar gyfer y cyfarfod nesaf, gan gynnwys trafodaeth ynghlych y cwricwlwm. 

 

Dim busnes pellach.